Araith i Gymdeithas Cledwyn

See below for the text of my speech to the Cymdeithas Cledwyn meeting at the Eisteddfod. It is in Welsh, but if don’t understand Welsh you can listen to an English language interview I gave on the field here.

Dyma destun fy araith i Gyfarfod Cymdeithas Cledwyn ar faes yr Eisteddfod ar y Nawfed o Awst 2012:

Ar Ddydd Iau’r pymthegfed o Dachwedd 2012, bydd cyfle i bobl Cymru ethol pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd i fod yn atebol am y ffordd yr eir i’r afael â throseddu yn eu hardal.

Roedd fawr ddim cefnogaeth i’r newid yma yng Nghymru. Syniad dieithr ydy bod un person yn gwneud yr holl benderfyniadau pwysig – hanes y Cymry ydy anghytuno gyda’n gilydd  a dadlau am y datrysiad gorau, nid rhoi’r hawl i un person penderfynu.

Dros y ganrif a hanner diwethaf, mae’r syniad o blismona trwy gytundeb wedi datblygu yn y Deyrnas Unedig yn enwedig – hynny yw “policing by consent”. Datblygiad pwysig iawn ydy hyn: y syniad bod yr heddlu yn dinesyddwyr mewn lifrai gyda’r pwyslais ar barch yn lle gorfodaeth. Mae’r pwyslais yno yn y gair Cymraeg: heddlu a hefyd yn y Llw gan bob Cwnstabl – “achosi i’r heddwch gael ei gadw a’i ddiogelu” trwy bod “yn deg, yn onest, yn ddiwyd ac yn ddiduedd, gan gynnal hawliau dynol sylfaenol a chan roddi’r un parch i bob person.”

Wrth gwrs mae yna adegau pan mae’r pwyslais wedi bod yn wahanol – roedd Margaret Thatcher yn gweld dyletswydd yr heddlu i’r llywodraeth yn lle i’r bobl. Roedd nifer fawr o’r heddlu yn cytuno – yn enwedig pan roedd yr heddlu ar y llinell piced o du hwnt nid yn lleol. Pan oedd heddlu lleol yn plismona yn aml roedd brodyr a ffrindiau ar y ddau ochr a llai o drais a chasineb yn cymryd lle.

Dros y degawd diwethaf, bu pwyslais mawr ar blismona cymdogaeth – neighbourhood policing. Ddaru droseddu gostwng gan bedwar deg y cant yn ystod y Llywodraeth Llafur. Dwi’n siŵr bod y dulliau newydd wedi chwarae rhan bwysig iawn mewn newid agweddau. Os ydy’r heddlu yn rhan o’r gymuned, mae pobl yn hel straeon iddyn nhw. Mae gobaith yn bwysig iawn – rheswm i bobl peidio ag troseddi ac i osgoi trafferth.

Mewn cyfran fawr o gymunedau Gogledd Cymru mae cyfathrebu yn llwyddiannus yn meddwl cyfathrebu yn Gymraeg ac mae’r heddlu wedi deall hynny a symud ymlaen.

Ond mae rhai yn meddwl mai polisi diwylliant ydy defnyddio’r Gymraeg – rhywbeth sydd ddim yn bwysig mewn argyfwng. Ar adegau mae hynny’n wir – ond mae hi hefyd yn hynod o bwysig i ddeall bod nifer mawr o bobl yn enwedig yn y Gorllewin yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Iddyn nhw, mae cyfieithu i’r Saesneg yn ormod i ddisgwyl mewn argyfwng – ac os ydyn yn darganfod ei hun o dan ymchwiliad, mae’n angenrheidiol iddyn nhw gael esboniad clir yn ei iaith ei hun. I nifer fawr o’n trigolion mae hynny’n golygu yn Gymraeg.

Gyda thoriadau mawr yn plismona, bydd pwysau i ganolbwyntio ar y pethau sydd yn angenrheidiol. Mae cyfathrebu gyda’r cyhoedd (felly cyfathrebu yn nwyieithog) yn angenrheidiol. Mae yna berygl gyda’r newid i Gomisiynwyr bod y pwyslais ar y bobl sy mwy tebygol o bleidleisio, yn lle ar y bobl sydd angen cymorth y fwyaf.

Mewn ateb i hynny, mae Plaid Cymru wedi dweud na fydden yn ymgeisio yn yr etholiad yma ac yn awgrymu ymgeiswyr annibynnol. Dwi’n falch iawn bod y blaid Lafur wedi cymryd cyfrifoldeb yn y sefyllfa yma i ddewis ymgeiswyr sydd yn deall y sefyllfa o’n blaen a phwysigrwydd datblygu consensws.

Fel Ymgeiswyr mae gennym ni polisïau clir. Yn gyntaf, bydden yn sefyll i fyny dros ein cymunedau yn erbyn y toriad o ugain y cant i blismona gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bydden yn gofyn i’r Llywodraeth yn Llundain adnabod nad oes synnwyr torri plismona tra bod eu polisïau economaidd yn gwthio diweithdra a droseddi i fyny.

Yn ail bydden yn gwneud yn siŵr bod yr heddlu yn canolbwyntio ar y bobl sydd yn dioddef y mwyaf o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dod â’r heddlu a phobl leol at ei gilydd i daclo’r problemau yn yr ardaloedd hynny.

Bydden yn gweithio gyda swyddogion yr heddlu, y staff ac asiantaethau eraill i arbed arian a lleihau aildroseddu a bydden yn cefnogi’r heddlu i gynnal y gyfraith dros bawb yn ddiwahân.

Fel dywedais i ar y dechrau, doedd fawr ddim cefnogaeth yng Nghymru am y newid yma. Ond, try ethol Comisiynwyr profiadol sydd yn mynd i ganolbwyntio ar wellhau’r cysylltiad rhwng yr heddlu a’r cyhoedd, Dwi’n gobeithio cawn wellhau hyder yn yr heddlu i weithio yn  deg, yn onest, yn ddiwyd ac yn ddiduedd i ddatrys problemau ein cymunedau.

What do you think?

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s