Wythnos i Adlewyrchu

Click here to read this blog post in English.

Awst 2013

Pob blwyddyn mae Cymdeithas Cledwyn yn cynnal cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod. Cymdeithas Cymry-Cymraeg y Blaid Lafur ydy Cymdeithas Cledwyn, wedi ei enwi er anrhydedd Cledwyn Hughes, cyn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ac ymgyrchydd diflino ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Blwyddyn ddiwethaf roedden yn canolbwyntio ar yr etholiadau am Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Roedd Dydd Iau diwethaf yn gyfle i glywed gan Dafydd Elystan Morgan – Elystan i’w ffrindiau a Barwn Elystan-Morgan yn swyddogol. Wnes i cwrdd ag Elystan pan yn Prif Weithredwr Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru. Ar rhan Awdurdodau Heddlu Cymru wnes i ddrafftio newid i’r Mesur Cyfrifoldeb Cymdeithasol Diwygio’r Heddlua fyddai wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am y gwiriadau a balansau gan gynrychiolwyr etholedig yn lleol i gael ei benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch darllen y ddadl yma.

Cadeiriwyd y cyfarfod wythnos diwethaf unwaith eto gan Eluned Morgan. Wnaeth Eluned gyfaddef ar y dechrau i gymryd Elystan ymhobman ar ei wyliau, yn gynnwys i’w wely, cyn esbonio ei bod yn son am ei lyfr, sydd ar gael yma – dwi wedi archebu copi ac yn edrych ymlaen at ei ddarllen (diddorol i weld datblygwyd gwefan y Lolfa gan “Technoleg Taliesin” – enw da i gwmni ond dim byd i wneud efo fi!). Mae yna adolygiad Saesneg o’r llyfr yma.

Diolch i Richard Wyn Jones am holi Elystan am ei hanes a hefyd ei farn ar faterion cyfoes. Un o gwestiynau Richard oedd ei resymau am adael Plaid Cymru ac ymuno a’r Blaid Lafur yn 1965. Esboniodd Elystan nad oedd wedi newid ei feddwl am hunan lywodraeth i Gymru, na phwysigrwydd cefnogi’r Iaith Gymraeg – ond bod gwell siawns o gyflawni’r amcanion yma trwy’r Blaid Lafur. Dioddefodd ergyd yn 1979 pan fethodd i gael ei hethol i gynrychioli Ynys Môn pan yn ei phedwardegau ond aeth ymlaen i ail yrfa fel aelod o Dŷ’r Arglwyddi ac fel barnwr.

Yn y pendraw roedd Elystan yn gywir: y Blaid Lafur sicrhaodd hunan lywodraeth i Gymru a chefnogaeth swyddogol i’r Iaith Gymraeg. Weithiau mae Plaid Cymru wedi nodi Plaid Lafur fel y gelyn – diddorol i weld yn yr isetholiad mis diwethaf eu hymgeisydd yn hytrach yn canolbwyntio ar bethau mae Plaid Cymru wedi cyflawni trwy weithio efo’r Blaid Lafur. Yn wir, ar y pwnc lle mae anghytundeb dwfn rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sef ynni niwclear, roedd Rhun yn cytuno gyda ni. Roedd hefyd yn cydnabod nad ydy annibyniaeth yn gwneud synnwyr i Gymru ar hyn o bryd er ei bod yn gobeithio am hyn yn y pendraw. Roedd yna ambell un ymdrech i honni bod y Blaid Lafur yn gwrth-Gymraeg ac yn un taflen roedd Plaid Cymru yn dweud pethau gwahanol i bleidleiswyr yn y Gymraeg a’r Saesneg – ffôl iawn a rhywbeth dwi’n gobeithio ni fydd yn digwydd eto.

Mae rhai pobl yn cael trafferth efo enwau Cymraeg. Yr ateb i hyn ydy rhoi cymorth iddynt. Y diwrnod ar ôl i Rhun cwyno bod aelod o’r blaid Lafur methu dweud ei enw, wnes i gwrdd â dynes yng nghanol Caergybi oedd yn siarad Cymraeg ond yn methu dweud Taliesin. Wnes i ddim beio hi na’u chondemnio ond rhoi cymorth iddi. Yn ôl arolwg barn blwyddyn ddiwethaf, mae 81% o bleidleiswyr Llafur yn falch o’r iaith Gymraeg – mwy na phleidleiswyr ar gyfartaledd. Dwi’n falch o fy enw Cymraeg a’r enwau Cymraeg wnaethon ni dewis ar gyfer ein plant. Ysgrifennodd Taliesin ac Aneurin y testun hynaf i oroesi yn y Gymraeg – y testun sy’n profi mae’r iaith fyw hynaf yn Ewrop ydy Cymraeg.

Wrth gwrs o’n i’n gobeithio ennill yr etholiad er bod canlyniadau blaenorol etholiadau i’r Cynulliad ar Ynys Môn yn awgrymu bod hyn yn annhebygol. Ond yn fwy pwysig ydy ennill y ddadl. I fi, y ddadl bwysicaf yng ngwleidyddiaeth ar hyn o bryd ydy rhwng y rhai sydd am adeiladu economi fel bod pawb sy’n gallu gweithio yn cael cyfle i weithio a’r rhai sy’n canolbwyntio gymaint ar dorri’r diffyg ariannol nad ydynt yn deall eu bod yn niweidio’r economi yn y broses heb wneud tolc sylweddol yn y diffyg oherwydd bod llawer mwy o bobl wedi cael eu rhoi allan o waith neu yn gweithio yn rhan amser.

Tra nad ydy pleidiau’r Glymblaid San Steffan yn cynnig unrhyw obaith, mae UKIP yn cynnig gobaith ffug. Roedd nifer fawr o bobl ar Ynys Môn yn credu mai mewn-fudiant ydy’r broblem efo’r economi. Ond roedd yna lawer mwy o dystiolaeth am anghenraid allfudiad: pobl ifanc yn gadael yr Ynys er mwyn gwaith. Hanes yr Ynys, a hanes fy nheulu i hefyd. Os ydy pawb sy’n gweithio tramor yn dod adref yr un pryd a phawb o dramor sy’n gweithio yma yn mynd adref, yr unig sicrwydd ydy llawer mwy o bobl ddi-waith!

Dydy gwleidyddwyr sy’n annog pobl i feio’u cymdogion am ddiffyg gwaith neu dai ddim yn helpu’r sefyllfa o gwbl. Yr hyn sydd eisiau ydy creu mwy o swyddi – er enghraifft trwy adeiladu mwy o dai fforddiadwy. Mae Plaid Cymru yn cytuno efo’r Blaid Lafur ar hyn. Dwi’n gobeithio yn sgil ei fuddugoliaeth byddwn yn clywed mwy gan Blaid Cymru ar hyn – yn lle’r agweddau llai positif o’u hymgyrch.

What do you think?

Please log in using one of these methods to post your comment:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s